Dwyieithrwydd a Gwytnwch Dementia, 31 Mawrth 2023
Annwyl bawb,
Gyda chynnydd yn y boblogaeth sy’n heneiddio, mae gwella ein hiechyd a’n lles yn hollbwysig. Er bod sawl astudiaeth yn awgrymu bod dwyieithrwydd yn gohirio dementia cynnar, nid oes llawer o ymchwil yng Nghymru wedi edrych ar sut mae dwyieithrwydd yn cael effaith gadarnhaol ar ein hiechyd.
Ar 31 Mawrth 2023, mae ymchwilwyr Prifysgol Abertawe yn cynnal digwyddiad Cymru-gyfan, a ariennir gan Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (MASI), i ddod ag unigolion ynghyd sydd â diddordeb yn y Gymraeg, dwyieithrwydd a gwytnwch dementia. Mae hyn yn cynnwys ymchwilwyr o bob disgyblaeth academaidd, diwydiant, cyrff anllywodraethol, y llywodraeth a’r gymuned leol.
Cynhelir y digwyddiad yn y Sefydliad AWEN, Prifysgol Abertawe, a bydd y rhaglen yn cynnwys tri phrif gyflwyniad gan yr Athro Antonella Sorace, Prifysgol Caeredin, Dr Kathryn Jones, IAITH a’r Athro Jeremy Tree, Prifysgol Abertawe. Hoffem hefyd glywed gan unigolion sy’n dymuno siarad yn ein cyflwyniadau 10-munud. Mae croeso ichi gyflwyno ar unrhyw bwnc megis dwyieithrwydd neu ymchwil niwroddirywiol. Mae gwahoddiad cynnes hefyd i unigolion sydd â phrofiadau personol o fyw gyda dementia i gysylltu â’r trefnwyr.
Ewch i’n tudalen Eventbrite am fwy o wybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys manylion cofrestru a’r rhaglen;
Dr James Murray, Dr Gwennan Higham a’r Athro Andrea Tales (pwyllgor trefnu)
Bilingualism and Dementia Resilience, 31 March 2023
Dear all,
With an increasingly ageing population, improving health and wellbeing is of paramount importance. Although numerous studies highlight the benefits of bilingualism in delaying the onset of dementia, the health impact of speaking two languages has not yet been widely explored in Wales.
Funded by the Morgan Advanced Studies Institute (MASI), Swansea University researchers are hosting an all-Wales sandpit event on 31 March 2023 to bring together anyone interested in the Welsh language, bilingualism and dementia resilience. This includes researchers from across all academic disciplines, industry, NGOs, government, and the local community.
The event is being held at the AWEN Institute at Swansea University and includes three main talks by Professor Antonella Sorace, Edinburgh University, Dr Kathryn Jones, IAITH and Professor Jeremy Tree, Swansea University. We also would like to hear from anyone who wishes to speak in our shorter 10-minute talks. Any topic from bilingualism to neurodegenerative research, and importantly, individuals with experience of dementia are warmly invited to contact the organisers.
For more information about the event, including programme and registration, please see our Eventbrite page;
Dr. James Murray, Dr Gwennan Higham and Professor Andrea Tales (organising committee)